Rydych chi wedi gwneud y peth iawn. Rydych chi’n cymryd y cam cyntaf tuag at gael cyngor ar ddyled. Rydych bellach yn ymuno â’r miloedd lawer o bobl bob blwyddyn yn Lloegr, sy’n elwa o gael cyngor drwy’r Rhwydwaith Cynghorwyr Arian.
Mae ein rhwydwaith yn dwyn ynghyd rhai o ddarparwyr cyngor ar ddyledion mwyaf adnabyddus y wlad fel y gallwch gael mynediad at gyngor ar ddyledion am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar unwaith.
Ni fydd angen i chi dalu am y cyngor fyddwch yn ei dderbyn, ac ni fydd siarad â ni yn effeithio ar eich statws credyd.
Mae’r rhwydwaith yn cael ei redeg gan HelpwrArian, corff llywodraeth hyd braich y DU sy’n eich helpu i gael cyngor am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar ddyledion.
Rydym yn sicrhau bod gan yr holl wasanaethau cyngor ar ddyledion yn y rhwydwaith safon neu aelodaeth sydd wedi’u hachredu gennym ac yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae popeth rydych yn ei rannu gyda ni yn hollol ddiogel ac yn breifat.
Byddwch yn cael asesiad llawn o’ch sefyllfa ariannol yn seiliedig ar y wybodaeth fyddwch yn rhoi iddynt.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl waith papur gyda’i gilydd. Gallwn eich helpu i gyfrifo faint yn union sy’n ddyledus gennych a pha arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan.
Mae cyllideb yn bwysig iawn ar gyfer cyfrifo faint o arian sydd gennych i dalu’ch dyledion wrth gadw i fyny â biliau hanfodol a chostau byw.
Mae hefyd yn helpu’r gwasanaeth ymgynghorwyr i ddod o hyd i ateb sy’n iawn i chi.
Unwaith y bydd gennych ddarlun llawn o’ch sefyllfa ariannol, bydd y gwasanaeth cynghorwyr yn eich arwain drwy'r camau ymarferol i sefydlu'r ateb sy’n gweithio i chi.
Byddwch nawr ar eich ffordd i gael eich hun yn ôl ar y trywydd iawn, gan wybod eich bod wedi gwneud y dewis gorau gyda'r gefnogaeth broffesiynol gywir.
Os oes angen cyngor arnoch ar reoli eich arian ac rydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth cywir ar y dudalen nesaf.
Darganfyddwch fwy am y Rhwydwaith Cynghorwyr Arian, ac atebion i gwestiynau cyffredin.
Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i’n polisi preifatrwyddOpens in a new window