Atebion i gwestiynau cyffredin am ddefnyddio’r Rhwydwaith Cynghorwyr Arian i elwa o wasanaeth cynghori ariannol cyflym a hawdd, am ddim, y gallwch ymddiried ynddo.
Gall pryderon ariannol gymryd dros eich bywyd ac effeithio’n ddifrifol ar eich iechyd meddwl a'ch perthnasoedd.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael cyngor yn dweud wrthym eu bod yn teimlo llai o straen neu bryder, ac yn gallu rheoli eu bywyd eto.
Byddwn yn eich rhoi chi mewn cysylltiad â darparwr cyngor ariannol cymwys a rheoledig fel y gallwch fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Mae defnyddio’r Rhwydwaith Cynghorwyr Arian yn golygu y gallwn leihau eich amser aros ar gyfer cael yr help cywir yn gyflym. Hefyd, ni fydd angen i chi dalu am y cyngor rydych yn ei gael.
Mae’r Rhwydwaith Cynghorwyr Arian yn beilot sy’n canolbwyntio ar dechnoleg i symleiddio sut mae pobl yn cael mynediad ac yn profi’r daith cyngor ar ddyledion wrth gynyddu effeithlonrwydd er mwyn ein galluogi i helpu mwy o’r rhai sydd mewn angen i dderbyn cyngor ar ddyledion am ddim.
Fe’i cyflwynir mewn cydweithrediad â’r partneriaid canlynol a bydd eich gwybodaeth lle bo angen, yn cael ei rhannu a’i phrosesu gan y canlynol:
Mae tua 9 miliwn o oedolion sydd â gormod o ddyled yn y DU (17.2% o’r boblogaeth oedolion) – o’r rheiny mae 5.3 miliwn angen cyngor ar ddyledion ond dim ond 32% sydd wedi, neu sydd yn gofyn am gyngor. Rhoddodd Adolygiad Annibynnol Wyman y bwlch rhwng cyflenwi a’r gofyn am gyngor ar ddyledion tua 600,000 o bobl y flwyddyn.
Mewn cydweithrediad â’r sector, rydym am fynd i’r afael â hyn a chefnogi’n well y nifer cynyddol o bobl yn y DU sy’n cael trafferth gyda phroblemau dyled drwy:
Byddwch yn cael cyfle i drafod eich sefyllfa gyda darparwr cyngor ar ddyledion i ddeall eich opsiynau. Unwaith y byddwch wedi darparu eich gwybodaeth ariannol cyn belled ag y bo modd ac rydym wedi deall beth yw eich amgylchiadau presennol, byddwn yn eich helpu i nodi beth yw'r camau nesaf cywir i chi.
Byddwch yn rheoli pob cam o’r ffordd ac, os byddwch yn siarad ag ymgynghorydd ar unrhyw adeg, byddant bob amser yn gwirio eich bod yn deall yr hyn y maent wedi’i ddweud ac yn cytuno â chi beth fydd yn digwydd nesaf.
Bydd angen i chi egluro’ch amgylchiadau personol yn fanwl – er bod hyn yn gallu bod yn anghyfforddus mae angen i ni sicrhau bod ein cyngor yn iawn i chi yn y tymor hir. Efallai y bydd opsiynau ar sut rydych chi'n darparu peth o’ch gwybodaeth ariannol gan gynnwys trwy fancio agored.
Mae yna lawer o ddatrysiadau dyled ar gael felly bydd yr hyn sy’n iawn i chi bob amser yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. P'un a fyddech chi’n elwa o Gynllun Rheoli Dyledion (DMP), Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO), Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA), methdaliad neu ateb llai adnabyddus arall o bosibl, bydd ein cynghorwyr yn gallu nodi'r cymorth cywir i chi'n uniongyrchol.
Gallant hefyd eich atgyfeirio at ddarparwr datrysiadau arall a all eich helpu i gymryd y cam olaf hwnnw tuag at ddod yn rhydd o ddyledion.
Ni fydd cael cyngor ar ddyledion yn effeithio ar eich sgôr credyd. Oherwydd y gall rhai atebion dyled effeithio ar eich sgôr credyd, byddwn bob amser yn dweud hyn wrthych yn glir cyn i chi benderfynu a ddylid ei dderbyn.
Ydyn, mae aelodau o'n rhwydwaith a’u cynghorwyr yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gynnig cyngor llawn i chi a gweithredu er eich lles bob amser.
Gall hyn fod yn risg i rai pobl, ond gallech osgoi hyn rhag digwydd os ydych yn cael cyngor ar ddyledion.
Gall ymgynghorydd dyledion eich helpu i drafod gyda’r bobl y mae arnoch arian iddynt, gall ystyried beth yw eich nodau, a bydd bob amser yn eich helpu i ddeall a gorfodi eich hawliau yn yr amgylchiadau anodd hyn.
Nid yw byth yn rhy hwyr i gael cyngor ar ddyledion ond fel arfer bydd gennych fwy o opsiynau cyn gynted ag y byddwch yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem.
Na, bydd ein cyngor bob amser yn cael ei ddarparu am ddim. Os oes costau yn ddiweddarach yn gysylltiedig â’r datrysiad dyledion fyddwch yn ei ddewis, yna bydd y rhain yn cael eu hesbonio’n llawn i chi cyn i chi wneud y penderfyniad i’w dderbyn.
Ydy, mae aelodau o’n rhwydwaith a’u cynghorwyr yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gynnig cyngor llawn i chi a gweithredu er eich lles bob amser.
Mae cyngor a systemau yn destun sicrwydd ansawdd llym sy’n golygu y gallwch fod yn hyderus yn y cyngor a roddir.
Mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn cyn siarad ag ymgynghorydd dyledion. Mae gan dros wyth miliwn o bobl yn y DU anawsterau ariannol ac mae ein gwasanaethau cyngor ar ddyledion yn cefnogi miloedd lawer o bobl bob blwyddyn. Gallwch fod yn hyderus na fydd ein ymgynghorwyr dyled byth yn eich barnu nac yn gwneud i chi deimlo’n ddrwg am eich sefyllfa. Byddant bob amser yn hapus i siarad â chi, waeth pa mor fawr neu fach y gallai eich problem fod.
Gallant ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich dyledion hyd yn oed os ydych yn meddwl nad oes gennych arian sbâr. Byddant hefyd yn gallu awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion nad ydych efallai’n gwybod amdanynt eisoes. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael cyngor ar ddyledion yn dweud wrthym eu bod yn teimlo dan lai o straen neu’n bryderus ac yn gallu rheoli eu bywyd eto.
Na, ond gallwn eich atgyfeirio’n syth at rywun sy’n gallu. Yn anaml, ym mhrofiad ein cleient y daw problemau dyled ar eu pen eu hunain. Yn aml mae dyled yn digwydd oherwydd newid mewn amgylchiadau a gall hefyd achosi problemau eraill yr hiraf y mae'n digwydd.
Mae ein ymgynghorwyr yn arbenigwyr ar ddyledion felly os na allwn helpu drwy’r broses cyngor ar ddyledion yna byddwn yn aml yn gallu eich atgyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth.
Gallwch ddychwelyd i gael cyngor ar ddyledion ar-lein trwy’r ddolen ar y dudalen hon ar unrhyw adeg yn y dyfodol, ddydd neu nos. Neu, pan fyddwch chi’n barod, gallwch chwilio am fanylion cyngor ar ddyledion am ddim ar-lein – gyda llawer o wasanaethau cynghori am ddim ar gael ledled y DU, gallwch ddod o hyd i help mewn ffordd sydd orau i chi.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw un y tu allan i'n rhwydwaith.
Darllenwch ein polisi preifatrwyddYn agor mewn ffenestr newydd.